Sant Padarn, Llanberis
Mae Sant Padarn yn adeilad rhestredig Gradd II* diwedd oes Fictoria, wedi’i hadeiladu gan ddefnyddio carreg lleol a thywodfaen pinc o gwmpas y ffenestri hefo to llechi Cymreig. Fe adeiladwyd estyniad i’r eglwys yn 1914-5, i gynnwys Capel Mair. Mae’r Uwch Allor yn gofeb i wyr ifanc o’r eglwys a gollwyd yn ystod y ddau Ryfel Byd.
Mae Sant Padarn ar agor yn ystod yr wythnos, rhwng 10:30yb a 4yp yn yr haf, a 3yh yn y gaeaf, i ymwelwyr ac ar gyfer addoliad preifat. Cynhelir ein gwasanaethau rheolaidd (cymun a boreol weddi) bob bore Sul am 11. Mae 90% o’r gynulleidfa yn siarad Cymraeg ond mae’r rhan fwyaf o’n gwasanaethau yn ddwyieithog.
Mae’n gwasanaethau Nadolig yn cynnwys gwasanaeth y crud, a fynychir gan bobl sydd ddim yn arfer cymryd rhan yng ngweithgareddau’r eglwys. O bryd i’w gilydd rydym yn cynnal caffi bychan, ac yn annog pobl i ymuno a ni am de mefus, brecwast Cymorth Cristnogol, crempogau ar ddydd Mawrth Ynyd, a phrydau bwyd achlysurol fel Swper Diolchgarwch.
Mae’r eglwys yn fan gollwng ar gyfer rhoddion tuag at Fanc Bwyd Arfon. Hefyd, defnyddir yr adeilad gan sefydliadau lleol, yn cynnwys Ysgol Dolbadarn (ysgol gynradd lleol) ac amryw gerddorion lleol ar gyfer cyngherddau. Yn ogystal mae’r eglwys yn darparu gofod i arddangosfa o ffotograffau lleol.
St Padarn, Llanberis
St Padarn’s is a late Victorian Grade II* listed church, built using local stone with pink sandstone dressings to windows and doors, and with a Welsh blue slate roof. The church was extended in 1914-5, and the Lady Chapel was built. The high altar is a memorial to the young men of the church who lost their lives during the two World Wars.
St Padarn’s is open during the week, between 10.30am and 4pm in summer, 3pm in winter for visitors and for private prayer. Our regular services (communion and morning prayer) are held every Sunday at 11am. Around 90% of the congregation is Welsh speaking, but most of our services are bilingual.
Our Christmas services include a crib service, which is attended by people who are not usually involved with the church. We run an occasional small café, encouraging people to join us for strawberry tea, Christian Aid breakfast, Shrove Tuesday pancakes, and occasional meals, such as Harvest Supper.
The church is a drop-off point for people to contribute towards the local Arfon Food Bank. Also, the building is used by local organisations, including Ysgol Dolbadarn (the local primary school), and several local musicians for concerts. The church houses an exhibition of local photographs.